Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
 


264(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(60 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - WEDI'I OHIRIO

(0 munud)

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf ar Coronavirus (COVID-2019)

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

(15 munud)

NDM7279 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2020. 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI5>

<AI6>

6       Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2020-2021

(15 munud)

NDM7285 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru 2020-21 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;

b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c;

c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl: Cyllideb Derfynol 2020-2021

(60 munud)

NDM7282 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 25 Chwefror 2020.

</AI7>

<AI8>

8       Dadl: Y Setliad Llywodraeth Leol 2020-2021

(60 munud)

NDM7283 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2020.

</AI8>

<AI9>

9       Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2019-20

(15 munud)

NDM7284 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfen Atodol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn unol â Rheol Sefydlog 20.37, yn cytuno bod yr adnoddau sy’n cronni ac sydd i’w cadw gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan Ran 3 o Atodlen 4 o Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 a’r Grynodeb o’r Gofynion Adnoddau a Chyfalaf ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ar dudalen 6, yn cael ei ddiwygio o £14,825,000 i £14,775,000, fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Cyllid i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2020; ac yn cytuno hefyd gyda’r newid cyfatebol i Atodlen 7 ar dudalen 29 fel bod Taliadau o Ffynonellau Eraill £50,000 yn fwy, a’r Symiau a Awdurdodwyd i’w Cadw gan Weinidogion Cymru a Chyrff a Ariennir yn Uniongyrchol £50,000 yn llai.

Explanatory Memorandum to the Finance Committee Regarding the Variation of the Estimate of the Wales Audit Office for the Year Ending 31 March 2020 (Saesneg yn unig)

</AI9>

<AI10>

10    Dadl: Cynnydd ar fynd i'r afael â Throseddau Casineb

(60 munud)

NDM7281 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cytuno nad oes lle i droseddu casineb yng Nghymru.

2. Yn nodi ymdrechion Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i fynd i’r afael â throseddu casineb drwy roi mwy o hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen, gwella’r ffordd y cofnodir troseddau casineb, a gweithio gyda chymunedau i atal troseddu casineb yn y dyfodol.

3. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyngor a gofal pwrpasol.

4. Yn cydnabod bod mynd i’r afael â throseddu casineb yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cynllun gweithredu troseddau casineb Llywodraeth y DU sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Llywodraeth y DU - Action Against Hate: The UK Government's plan for tackling hate crime - 'two  years on' (Saesneg yn unig)

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru y llynedd, o'i gymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr gyfan.

Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod atal troseddau casineb yn sbardun strategol allweddol yn y broses o gynllunio a chreu system gyfiawnder i Gymru.

</AI10>

<AI11>

11    Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>